Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mehefin 2017

Amser: 09.30 - 11.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4157


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Tystion:

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Grant Duncan, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

 

2       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 11 – Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion.

 

3       Papurau i’w nodi

3.1   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am Gyllid Datblygu Clystyrau

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch Cyllid Datblygu Clystyrau.

 

3.2   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am Gyllid Datblygu Clystyrau

3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch Cyllid Datblygu Clystyrau.

 

3.3   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am Gyllid Datblygu Clystyrau

3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynghylch Cyllid Datblygu Clystyrau.

 

3.4   Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – gwybodaeth ychwanegol gan Samaritans Cymru

3.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Samaritans Cymru.

 

3.5   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am Gyllid Datblygu Clystyrau

3.5a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghylch Cyllid Datblygu Clystyrau.

 

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

5       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – trafod y dystiolaeth a’r prif faterion sy’n deillio o’r gwaith craffu

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog a'i swyddogion, a chytunodd ar set o faterion allweddol i'w cynnwys yn ei adroddiad drafft.